Roedd planhigion, coed a phryfed ar y blaned hon ymhell cyn i bobl gyrraedd ac maent yn debygol o fod ar y blaned ymhell ar ôl i ni adael.
Yn y bôn, byddai bywyd ar y Ddaear yn goroesi hebddom ni fel rhywogaeth, ond nid heb y Fflora a’r Ffawna eraill.
“Dim ond un ymhlith myrdd o rywogaethau dirifedi eraill sy’n byw rhwng y coed yw’r Homo sapiens.”
Mae’r rôl a chwaraewn wrth gadw a gwarchod pob ffurf o fywyd sy’n bodoli, yn golygu popeth i BTT . Ein nod penodol yw annog cenedlaethau’r dyfodol i barchu eu Planed a mwynhau harddwch natur drwy ymchwiliad gwyddonol a chelfyddyd amgylcheddol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cenedlaethau iau wedi treulio llai o amser yn chwarae ac yn archwilio yn yr awyr agored ac yn gwylio bywyd gwyllt yn ei gynefin naturiol. Yn anffodus, collodd y genhedlaeth iau rai geiriau penodol o’r byd naturiol o’u geirfa – geiriau megis mesen, dyfrgi, mieri, dant y llew a llawer mwy. Mae tirwedd gyfoethog dychymyg gwyllt a chwarae gwyllt yn cyflym bylu o feddyliau ein plant. Yn hytrach, mae plant yn treulio gormod o’u hamser o flaen sgriniau.
“Ydyn ni’n caniatáu i’r cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol herwgipio eu plentyndod gwerthfawr?”
Credwn, drwy ryngweithio cymdeithasol, chwarae, celf ac addysg ymchwiliol, y gallwn ail-gysylltu â’r byd naturiol.
“Rydym yn aml yn anghofio mai NATUR YDYM NI. Nid yw natur yn rhywbeth ar wahân i ni. Felly, pan ddywedwn ein bod wedi colli ein cysylltiad â natur, rydym wedi colli ein cysylltiad â ni ein hunain.” Andy Goldsworthy.
Hoffem eich gwahodd i fod yn rhan o “Between The Trees”, i fwynhau amgylchedd ysbrydoledig y goedwig gyda ni, a cherddoriaeth, celf tir, a’r gair llafar ac i gael eich ysbrydoli, eich adfywio a’ch adfer.
“Mae rhywbeth mawreddog yn y syniad hwn am fywyd, gyda’i grymoedd niferus, a anadlwyd yn wreiddiol i mewn i nifer fechan o ffurfiau, neu i un ffurf; ac wrth i’r blaned hon droelli yn ei blaen yn unol â deddf disgyrchiant, o gychwyniad mor syml mae ffurfiau diddiwedd mor brydferth ac mor wych wedi esblygu, ac yn cael eu hesblygu” –
Charles Darwin