Ein Hanes

Gweledigaeth dau addysgwr, Andrew Thomas a Dawn Wood yw Between The Trees.


Roedden ni wedi dechrau sylwi bod pobl yn datgysylltu fwyfwy oddi wrth natur ac yn cysylltu mwy â'u sgriniau, gan gynnwys ni!


Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â hyn felly, yn 2014, sefydlwyd Between The Trees.


Gyda'i thema unigryw, natur a gwyddoniaeth, nod yr ŵyl yw ailgysylltu pobl â'r byd naturiol. Mae'n cynnwys cyfuniad o gerddoriaeth werin indie wreiddiol, celf a’r gair llafar mewn cymuned sy'n cynnwys pawb ac yn annog creadigrwydd a rhoi cyfle i feddwl.


Ni allem fod wedi dod o hyd i safle mwy addas - mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr yn un o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cymru ac mae'n hafan i fywyd gwyllt, gyda'i ardaloedd coetir hudolus, y twyni tywod godidog a'r môr y tu draw iddo.


“We often forget that we are nature. Nature is not something separate from us. So, when we say that when we have lost our connection to nature, we have lost our connection to ourselves.”
Andy Goldsworthy