Mae’n cymryd amser i ffeindio'r darparwyr bwyd a diod cywir, ond nawr, ar ôl 8 mlynedd, rydyn ni’n meddwl ein bod ni wedi’i datrys ac mae gennym ni amrywiaeth gwych i chi. Dyna'r hen ffefrynnau, ond rydyn ni hefyd wedi ychwanegu rhai newydd-ddyfodiaid a fydd yn ychwanegu rhywbeth arbennig at y penwythnos.
Fresh Rootz – opsiynol fegan a llysieuol
The Greedy Pig – Cig o darddiad lleol, o ansawdd uchel, wedi'i fwydo â glaswellt. Byrgyrs wedi'u gwneud â llaw a brecwastau gwych, i gyd wedi'u paratoi'n gariadus.
Captain Brown’s Pizza – pitsa Eidalaidd dilys wedi’i danio â phren
Ice Green - hufan iâ fegan
Isabell’s Cakehouse - cacen, crempog
Tipsy Owl - coctels a 'mixology'
Bragdy Twt Lol neu mae The Little Fun Brewery yn fragdy meicro yn Ne Cymru, sy’n gwneud cwrw anhygoel ac sydd newydd ennill gwobr IPA gorau’r DU gan CAMRA gyda’u IPA Diablo Dragons.
Bibby’s Beans – mae brodyr Bibby, Joe a David, yn hoelion wyth yr ŵyl ac wedi bod gyda ni o’r cychwyn cyntaf. Yn ogystal â bod eu coffi “cystal ag y mae'n ei gael”, mae gan yr hogiau'r ddawn i wneud i bawb deimlo'n hapus a chroeso!
Lahmacun - yn arbenigo mewn coginio Arabeg modern a bara gwastad wedi'u coginio gan ddefnyddio tân coed