gweithdai

Sgiliau coetir traddodiadol

Ydych chi erioed wedi cerdded heibio llwybr o stondinau a chael eich syfrdanu, yn gofyn i chdi dy hun Sut wnaethon nhw wneud hynny? Beth fyddai angen i mi roi cynnig arni fy hun? neu falle, Ni allwn i byth wneud hynny! Sain siwr ble i ddechrau!

Mae ein masnachwyr yn cyflwyno nwyddau pwrpasol yn eu stondinau, yn ogystal â chynnal gweithdai! Gof, gwaith metel, gwaith coed, hogi offer, gwehyddu helyg a mwy…

Willow weaving is an ancient craft that has been in use for thousands of years. Within the British Isles, the earliest historical records of willow weaving date from the Mesolithic (around 8,000 to 10,000 years ago) – what an ancestral skill to learn! Time to get tactile and weave away, creating baskets and even your own creation once you know the ropes.

Crefft Gwyllt

Mae Dryad Bushcraft yn ymroddedig i ddarparu hyfforddiant Crefft Gwyllt o'r safon uchaf, addysgu sgiliau a chrefftau traddodiadol yn ogystal â defnyddio'r technegau a'r offer diweddaraf o bob rhan o'r byd i sicrhau bod eich anturiaethau gwyllt yn ddiogel, yn ddymunol ac yn gofiadwy!

Celfydydd a chrefftau

Mae ein ardal gwyddoniaeth, natur a chelf, y Hub-Hyb hefyd yn cynnal detholiad o weithgareddau, megis gweithdai uwch-gylchu dillad, sesiynau darlunio a dyfrlliw a dod yn greadur trwy wneud pypedau. Sylwch eu bod yn sesiynau poblogaidd iawn, gyda rhai gyda lleoedd cyfyngedig, felly efallai y bydd angen i chi gadw lle.

Edrychwch at ein tudalen Gweithgareddau Plant am fwy sesiynau gyda cheflydydd a chrefftau hefyd!

Dawns a Ballet Cymru

Mae Ballet Cymru yn gwmni bale proffesiynol cynhwysol a balch Cymreig sydd ag enw da am goreograffi arobryn, arloesol, wedi’i berfformio gan grŵp amrywiol a hynod dalentog o ddawnswyr proffesiynol o’r DU ac o gwmpas y Byd. Yn ogystal â pherfformiadau gyda’r nos ar y prif lwyfan, maent yn cynnal sioeau matinee a gweithdai dawns i blant neu unrhyw un arall a hoffai gymryd rhan.

Canu a chyfansoddi

Sesiynau Meic Agored ac 'Unearthed'eich cyfle i ddisgleirio!

Mae ein sesiynau Meic Agored wedi bod yn llwyddiant mawr, weithiau’n llawn dop o gerddorion, beirdd, storïwyr a gwrandawyr yn troelli tu allan i’r babell! Os ydych awydd ymuno yn y sesiynau hyn, dyna cyfle hefyd i berfformio ar ein hail lwyfan, The Niche, ar brynhawn dydd Sul lle rydym yn amserlennu “Unearthed“ neu "y gorau o'r sesiynau meic agored"!

Côr agoredCanu Rhwng y Coed

Mae Canu Rhwng y Coed yn ôl am y 5ed flwyddyn, gydag enw gwahanol bob tro! Dewch i ymuno am awr ddyrchafol o ganu bob bore, yn dysgu rhai caneuon o’r glust a’u haenu ag alawon cytûn. Dangoswch eich hunan trwy ymuno mewn perfformiad grŵp i'r dorf yn y brif arena brynhawn Sul hefyd!