Natur, gwyddoniaeth ac athroniaeth

Natur a gwyddoniaeth

Archwiliwch y byd natur trwy ein teithiau cerdded, sgyrsiau a gweithdai gwyddoniaeth “ymarferol”! Yn Micrographia, gallwch ymchwilio i fyd microsgopig o bryfed, planhigion, ffyngau a bywyd pwll, yn ogystal â dysgu am y fflora a ffawna rhyfeddol, prin ac amrywiol sy'n ymgartrefu yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr!

Neu gwrando ar sgyrsiau gan naturiaethwyr a gwyddonwyr, gwylio ffilmiau am gadwraeth natur ac ymgysylltu â gweithdai gwyddoniaeth a ddarperir gan academyddion, gweithwyr proffesiynol a selogion. Edrychwch at ein tudalen Sgrysiau a Theithiau cerdded i ddarganfod mwy am y pynciau y mae ein siaradwyr gwadd yn eu cyflwyno, sy'n pacio toreth o wybodaeth ac angerdd am ein byd naturiol.

Y 'Phil-oposhy tent' a sesiynau 'meic agored'

Eleni, rydym yn lansio pabell Phil-osophy, wedi'i chysegru i'n ffrind, Phil Wyman, crwydryn, llenor, cerddor a chrediniwr. Roedd ganddo llawer o storïau ac athroniaeth o fywyd sy wedi'i ysbrydoli unrhyw un yn rhannu eiliad, sigâr neu ddiod ag ef. 

Cynhaliodd Phil y sesiynau meic agored yn Y Cwtch, yn rhannu pŵer cerddoriaeth a gair llafar gyda phawb a ddaeth â geiriau, offeryn neu glustiau agored. Mae hwn yn ychwanegiad newydd, cyffrous ac arbennig i’r ŵyl a fydd yn ehangu ar yr athroniaeth sy’n bodoli eisoes trwy gyfansoddi caneuon, ac bydd yn dod yn fan agored ar gyfer meddyliau a syniadau. Dyma Phil yn gwneud be roedd e'n ei garu orau, mewn kilt neu het ddewin, yn ogystal â ffigwr gwych, gwir ddarluniedig a wnaed gan Lysbeth.